Y Pwyllgor Menter a Busnes

 

Tystiolaeth Ysgrifenedig ar gyfer Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i Brentisiaethau yng Nghymru

 

Tystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau

 

Crynodeb

1.    Mae’r papur hwn yn cynnig tystiolaeth i ategu Ymchwiliad y Pwyllgor i Brentisiaethau yng Nghymru. Mae’n amlinellu datblygiadau o ran polisi a chyflenwi prentisiaethau yn y blynyddoedd diwethaf, a’r cysylltiad rhyngddynt a’r sefyllfa gyfredol ar brentisiaethau yng Nghymru. Mae hefyd yn disgrifio rhan cyflogwyr mewn prentisiaethau, effaith economaidd ac ymatebolrwydd rhaglenni prentisiaethau cyfredol, a’r cymorth a roddir gan y system i baru’r cyflenwad o brentisiaethau yn effeithiol â’r galw.

Cyflwyniad

2.    Mae gan brentisiaethau draddodiad hir yn y Deyrnas Unedig, yn dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif. Ers blynyddoedd lawer mae nifer o ddiwydiannau traddodiadol wedi seilio’u hyfforddiant arnynt, er mwyn sicrhau cyflenwad digonol o unigolion hyfedr mewn galwedigaethau crefftus a phroffesiynau technegol a pheirianegol uwch. Ceisiodd Byrddau Hyfforddi Diwydiant y DU, a sefydlwyd o dan Ddeddf 1964, wella ansawdd ac ehangder yr hyfforddiant a rhannu costau’r hyfforddiant â chyflogwyr. Prinhau wnaeth prentisiaethau traddodiadol mewn sawl sector yn y 1980au, ac eithrio meysydd uwch-dechnoleg fel awyrofod, cemegau, niwclear, moduron, pŵer ac ynni. Parhaodd y sectorau hyn i fabwysiadu systemau prentisiaethau strwythuredig yn seiliedig ar raglenni pedair i bum mlynedd.

3.    Ym 1994, cyflwynodd Llywodraeth y DU Brentisiaethau Modern (a ailenwyd yn ddiweddarach yn 'Brentisiaethau' yng Nghymru) yn seiliedig ar fframweithiau a lunnir bellach gan Gynghorau Sgiliau Sector, cyrff diwydiannol a chyflogwyr. Er 2010, mae’r holl fframweithiau prentisiaethau sydd ar gael i’w cyflwyno yng Nghymru yn bodloni’r ddogfen newydd sy’n Pennu Safonau Prentisiaethau i Gymru (SASW), ac sydd, yn rhan o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009, wedi disodli’r safon ‘lasbrint’ flaenorol. Mae’r SASW yn nodi lleiafswm y gofynion ar gyfer Prentisiaethau yng Nghymru, ac yn cynnwys nifer o elfennau gorfodol megis:

·         Cymhwyster seiliedig ar gymhwysedd, y mae’n rhaid iddo, o leiaf, fod yn lefel 2 o’r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau;

·         Cymhwyster gwybodaeth dechnegol perthnasol;

·         Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif; a

·         Hawliau a Chyfrifoldebau Gweithwyr i sicrhau bod y prentis yn ymwybodol o’i hawliau a’i gyfrifoldebau yn y gweithle.

4.  Datblygwyd y rhain i godi safonau ar draws y sector prentisiaethau ac i ymateb i bryderon a godwyd gan gyflogwyr nad oedd gan lawer o brentisiaid sgiliau allweddol digonol na gwybodaeth dechnegol drylwyr.

Prentisiaethau yng Nghymru

5.Mae prentisiaethau yn dal i fod yn rhaglen flaenllaw i Lywodraeth Cymru. Rydym wedi ymrwymo yn ein Rhaglen Lywodraethu i gynyddu’r cyfleoedd prentisiaethau i bobl ifanc ac i gael ein barnu ar ein cyflawniadau niferus, o gyfraddau llwyddo prentisiaethau i nifer ac ehangder y cyfleoedd i bobl ifanc ddilyn prentisiaethau. Mae Siart Bar 1 yn dangos bod buddsoddiad dyranedig Llywodraeth Cymru (gan gynnwys cyllid Ewropeaidd) mewn rhaglenni cysylltiedig â phrentisiaethau (gan gynnwys Llwybrau at Brentisiaethau a’r Rhaglen Recriwtiaid Newydd) yn £91.6 miliwn yn 2010/11, mwy na’r £87.9 miliwn yn 2009/10 a’r £84 miliwn yn 2008/09.

 

Siart Bar 1.

 

6.   Mae ein dull ni yng Nghymru o gyflenwi prentisiaethau wedi bod yn wahanol iawn i ddull Lloegr. Rydym ninnau wedi ymrwymo i ddiogelu statws a brand prentisiaethau yng Nghymru ac wedi gosod ein rhaglen brentisiaethau yng nghanol ein harlwy ar sgiliau’r gweithlu, er ein bod hefyd yn cydnabod yr angen am hyblygrwydd wrth ymateb i anghenion cyflogwyr ac unigolion. Ein dull yng Nghymru yw galluogi atebion hyblyg drwy gyfres o raglenni cydberthynol sy’n ategu, yn hytrach nag yn glastwreiddio, yr arlwy brentisiaethau graidd. Mae hyn yn ein galluogi i gydweithio â chyflogwyr a darparwyr hyfforddiant i sicrhau ateb sy’n iawn iddynt hwy yn hytrach na system lle mae disgwyl i gyflogwyr wneud i’r rhaglen ‘ffitio’. Cydnabyddwn hefyd na fydd y farchnad, ar ei phen ei hun, yn ymyrryd yn ddigonol yn y mannau cywir ac ar yr adeg gywir i ddiwallu’r holl anghenion hyfforddi sydd gennym yng Nghymru. Rydym felly’n parhau i weithio mewn partneriaeth â’n cyflogwyr a’n darparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru i sicrhau ein bod yn cyflenwi’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer economi ehangach Cymru. 

7. Mae ein strategaeth brentisiaethau yng Nghymru yn seiliedig ar bum prif egwyddor:

·         galluogi pobl ifanc i gychwyn yn y farchnad lafur, drwy ystod o fodelau cyflenwi prentisiaethau hyblyg, er mwyn ennill sgiliau galwedigaethol a throsglwyddadwy i’w paratoi at ddyfodol llwyddiannus;

·         darparu cyfleoedd uwchsgilio ar gyfer unigolion yn y gweithlu presennol;

·         bod yn ymatebol er mwyn diwallu anghenion cyfredol cyflogwyr,  drwy ddatblygu a darparu o ran prentisiaethau atebion arloesol sy’n ysgogi datblygiad economaidd ledled Cymru;

·         sicrhau bod y system brentisiaethau yn gallu diwallu anghenion economi’r dyfodol drwy baru’r cyflenwad o brentisiaid â galw a nodwyd gan gyflogwyr;

·         darparu ystod o sgiliau cyflogadwyedd sy’n hybu symudedd cymdeithasol ac yn sicrhau cyfle cyfartal.

 

8.  Mae polisi Llywodraeth Cymru ar brentisiaethau yn y blynyddoedd diwethaf wedi rhoi pwyslais amlwg ar wella’r cyfraddau cwblhau, a sicrhau bod prentisiaid yn dysgu am gyfnod hwy, ac yn cael ystod ehangach o sgiliau a set lawnach o gymwysterau i ddiwallu anghenion cyflogwyr.

 

9.   Er bod niferoedd cyffredinol rhaglenni prentisiaethau yng Nghymru wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf o ryw 53,165 yn 2006/07 i ryw 39,600 yn 2010/11, mae’r cyfraddau llwyddo wedi cynyddu’n sylweddol o 54% yn 2006/07 i 82% yn 2010/11. Canran y prentisiaid 25 oed a throsodd yn 2010/11 oedd 55%, ac roedd 56% yn fenywod a 44% yn wrywod. Roedd hyfforddiant prentisiaeth yn arbennig o boblogaidd mewn sectorau fel gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus, manwerthu a gwasanaeth cwsmeriaid, lletygarwch, peirianneg, ac adeiladu; ac mewn meysydd fel gweinyddu busnes, rheolaeth, cynorthwywyr addysgu a Thechnoleg Gwybodaeth. Mae Atodiad A yn cyflwyno ystadegau manylach am raglenni dysgu prentisiaethau.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

10.       Mae Graff 1 yn dangos y cyfraddau cwblhau prentisiaethau rhwng 2006 a 2011.  

 

Graff 1



--------------Prentisiaethau Modern Sylfaenol

--------------Prentisiaethau Modern

-------------- Wedi’u cyfuno

 

11.Yng Nghymru parhawn i ddarparu rhaglen Brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oed, ac mae’r rhaglen honno’n cyflenwi prentisiaethau ar bob lefel, o Brentisiaethau Sylfaen lefel 2 i Brentisiaethau Uwch ar Lefel 5/6. Sut bynnag, rydym yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng diwallu anghenion pobl ifanc sy’n cychwyn yn y farchnad lafur a chadw’r opsiynau’n agored i oedolion ennill fframwaith prentisiaeth llawn neu gymhwyster unigol o’r tu mewn i fframwaith prentisiaeth. Rydym wedi ymrwymo yn ein Rhaglen Lywodraethu i gynyddu’r cyfleoedd prentisiaethau i bobl ifanc, i gydnabod effaith anghymesur y dirwasgiad ar ddiweithdra ieuenctid, ac rydym wrthi felly yn addasu ein rhaglenni prentisiaethau yn unol â’r ymrwymiad hwnnw.

 

12.I sicrhau’r cydbwysedd hwn, rydym wedi cyflwyno nifer o atebion arloesol yng Nghymru yn rhan o bortffolio o raglenni prentisiaethau cysylltiedig, sy’n hyrwyddo llwybrau datblygu clir a hyblyg i bobl ifanc. Mae’r atebion hyn yn cael eu datblygu a’u gweithredu gan Uned Brentisiaethau benodedig yn Llywodraeth Cymru. Nod y mesurau a restrir isod yw lleihau effaith twf economaidd isel a sicrhau bod mwy o gyfleoedd i bobl ifanc 16-24 oed ddilyn prentisiaethau.

 

13.Yn ogystal â model prentisiaeth ‘gyfan’ y brif ffrwd, mae modelau cyflenwi eraill wedi’u datblygu i helpu i ysgogi galw gan gyflogwyr. Mae’r rhain yn cynnwys yr opsiwn i ddethol cymwysterau unigol o fframwaith prentisiaeth o dan lwybr y Ddarpariaeth Hyblyg neu, lle y bo’n briodol, yr opsiwn i brentis gael ei ‘rannu’ gan fwy nag un cyflogwr drwy’r dull Rhannu Prentisiaeth.

 

14.Mynd i’r afael yn uniongyrchol â diweithdra ieuenctid – Mae’r rhaglen Llwybrau at Brentisiaethau yn rhaglen hyfforddi ddwys a phwrpasol sy’n parhau am flwyddyn, ac mae’n paratoi pobl ifanc 16-24 oed drwy eu rhoi  ar ‘drywydd cyflym’ i brentisiaethau o ansawdd uchel. Mae pob Llwybr wedi’i lunio’n unigol ar gyfer maes galwedigaethol penodol drwy ymgynghori â’r Cyngor Sgiliau Sector (CSS), y cyflogwyr a’r Sefydliadau Addysg Bellach perthnasol, ac mae’n ffordd hyblyg i bobl ifanc feistroli’r wybodaeth a’r sgiliau sylfaenol y byddai eu hangen i gwblhau’r fframwaith prentisiaeth llawn yn llwyddiannus. Byddwn yn parhau i gynnig rhaglenni Llwybrau at Brentisiaethau yn ystod 2012/2013 a byddwn yn cynyddu nifer y meysydd galwedigaethol sydd ar gael. Rhagwelir y bydd 2,000 o leoedd newydd ar gael ym Medi 2012, o ganlyniad i fuddsoddiad o £11 miliwn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2012/2013.

 

15.At hynny, mae’r Rhaglen Recriwtiaid Newydd yn rhoi cymorth uniongyrchol i gyflogwyr, yn enwedig y rhai mewn microfusnesau, drwy gymhorthdal cyflog i greu lleoedd prentisiaeth newydd neu ychwanegol ar gyfer rhai 16-24 oed. Mae £4.23 miliwn ar gael yn 2012-13 i annog cyflogwyr i gefnogi hyd at 2,000 o leoedd newydd.

 

16.Yn ogystal, mae llwybrau datblygu clir at brentisiaethau o raglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru; Hyfforddeiaethau ar gyfer rhai 16-18 oed a Chamau at Waith ar gyfer rhai 18 oed a throsodd. Yn yr un modd, wrth lunio’r rhaglen Twf Swyddi Cymru, a lansiwyd yn Ebrill 2012, pwysleisiwyd bod symud ymlaen at Brentisiaethau yn ganlyniad y dylid anelu ato’n barhaus o ran cyflogaeth.

 

17.Ategir holl raglenni prentisiaethau Llywodraeth Cymru gan ein gwaith â Chomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau (UKCES) ynghylch trefniadau comisiynu fframweithiau prentisiaethau a sicrhau eu bod yn bodloni gofynion Cymru. Mae Pennu Safonau Prentisiaethau i Gymru (SASW) wedi gosod safon newydd ar gyfer y rhai sy’n nodi’r galw am fframweithiau prentisiaethau, ac yn datblygu eu cynnwys. Bellach mae mwy na 180 o fframweithiau prentisiaethau ar gael i Gymru, yn cynnwys y cymwysterau Fframwaith Cymwysterau a Chredydau diweddaraf a’r wybodaeth ddiweddaraf am y farchnad lafur. Mewn partneriaeth â’r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau yn Lloegr, rydym wedi datblygu Fframweithiau Prentisiaethau Ar-lein, sef porth gwe i ddatblygu a storio’r fframweithiau prentisiaethau i Gymru a Lloegr.

 

18.Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r polisi ar gyflenwi prentisiaethau ledled Cymru a thu hwnt yn barhaus i sicrhau bod rhaglenni’n dal yn addas i’r diben ac yn cael eu meincnodi yn erbyn y goreuon. Mae hyn wedi cynnwys trafodaethau diweddar rhwng fy swyddogion a chynrychiolwyr German Industry UK a’u cyflogwyr, er mwyn rhannu’r arferion gorau o system brentisiaethau’r Almaen. Yn yr un modd, byddwn yn ymchwilio ymhellach i ddeinameg model prentisiaethau’r Swistir, sydd wedi llwyddo i integreiddio’r rhan fwyaf o’r myfyrwyr i addysg ôl-orfodol a’r farchnad lafur ac sydd efallai wedi cyfrannu at gyfradd diweithdra ieuenctid gymharol isel y Swistir o 8.2% (o’i chymharu â’r cyfartaledd OECD o 16.7% yn 2009).

 

19.Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu rhaglen brentisiaethau fewnol lwyddiannus dros y tair blynedd diwethaf. Mae wedi recriwtio 100 o brentisiaid ac wedi’u paru’n llwyddiannus â swyddi gwag yn Llywodraeth Cymru.

 

Rhan Cyflogwyr mewn Prentisiaethau

20.Mae mwy a mwy o gyflogwyr yng Nghymru yn defnyddio prentisiaethau i roi cyfle i bobl ifanc gael swydd; mae’r profiad gwaith ymarferol ynghyd â’r dysgu cadarn a’r wybodaeth a feistrolir yn darparu sylfaen i fusnesau dyfu, yn ogystal â chyfle i unigolion ddatblygu gyrfa. Mae arwyddion calonogol fod yr ystod a’r math o gyflogwyr sy’n ymwneud â’r system brentisiaethau yn ehangu, ac mae’r gystadleuaeth am leoedd prentisiaeth wedi cynyddu’n aruthrol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mewn ymgyrch ddiweddar gan British Telecom i recriwtio prentisiaid, roedd mwy o alw nag erioed am y cynllun a derbyniwyd bron i 24,000 o geisiadau am y 221 o leoedd a oedd ar gael. Gan fod mwy na 100 o geisiadau am bob lle, gellir dweud bod mwy o bobl ifanc wedi ymgeisio am brentisiaeth nag oedd wedi ymgeisio am bob lle mewn prifysgolion fel Rhydychen.

 

21.Mae nifer o gyflogwyr mwyaf Cymru bellach yn cynnig hyfforddiant i brentisiaid hyd at lefel gradd. Un enghraifft yw Airbus, sy’n cynnig rhaglen newydd i helpu darpar beirianwyr i astudio ar gyfer gradd yr un pryd ag ennill profiad ymarferol mewn ffatri weithgynhyrchu brysur.

 

22.Mae ymgysylltu effeithiol â chyflogwyr yn hanfodol felly i gynnal y momentwm o ran cyflenwi prentisiaethau, ac i sicrhau bod cyflogwyr ac unigolion yn parhau i ystyried y brand prentisiaethau’n werthfawr. Mae dull Llywodraeth Cymru o gydweithio â chyflogwyr ar sgiliau yng Nghymru yn seiliedig ar bartneriaeth go iawn, ac mae ymgysylltu â chyflogwyr yn allweddol o ran herio a helpu i lunio ein harlwy; y canlyniad yw’r portffolio hyblyg ac ymatebol o raglenni prentisiaethau sy’n bodoli yng Nghymru. Parhawn i sianelu cyllid prentisiaethau drwy ein rhwydwaith o ddarparwyr, am fod hynny’n ffordd effeithiol o reoli ansawdd ac o sicrhau ystod eang o hyfforddiant i gyflogwyr.

 

23.Mae ein dull o gynnwys cyflogwyr mewn prentisiaethau yn amlweddog, a byddwn yn ymgysylltu â chyflogwyr ar bob lefel i sicrhau bod prentisiaethau’n berthnasol, yn gredadwy ac yn werthfawr. Mae’r dull hwn yn seiliedig ar gydweithio â’r Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i sicrhau bod safbwyntiau cyflogwyr yn cael eu casglu drwy’r Paneli Sector a arweinir gan ddiwydiant, a bod yna gydweithredu i ddiwallu anghenion Cwmnïau Angori, Cwmnïau o Bwys Rhanbarthol ac Ardaloedd Menter. Mae cymorth penodol ar gael i Gwmnïau Angori a Chwmnïau o Bwys Rhanbarthol i ddarparu lleoedd prentisiaeth ar gyfer pobl ifanc; mae defnydd helaeth wedi’i wneud o’r ymyriad hwn gan nifer o gwmnïau ers ei gychwyn y llynedd. Mae’r dull yn seiliedig ar ymgysylltu llwyddiannus â chyflogwyr unigol, i geisio deall eu hanghenion a sicrhau ymateb cynhwysfawr a chredadwy ar draws Llywodraeth Cymru.

 

24.Yn ogystal â’n hymgysylltu drwy Baneli Sector, rydym yn cydweithio’n ehangach â chyflogwyr fesul sector i ddatblygu ystod o ffyrdd i’r gwahanol sectorau gyflenwi prentisiaethau, er enghraifft drwy’r Rhaglen Llwybrau at Brentisiaethau. Mae’r dull seiliedig-ar-sector hwn yn cynnwys cydweithio â Chynghorau Sgiliau Sector i sicrhau bod cynnwys fframweithiau prentisiaethau yn parhau’n berthnasol ac yn adlewyrchu anghenion newidiol cyflogwyr. Mae hefyd wedi arwain at ddatblygu a threialu nifer o fframweithiau prentisiaethau a mecanweithiau cyflenwi newydd drwy raglen y Gronfa Blaenoriaethau Sector, sy’n cefnogi dulliau peilot newydd ac arloesol o gyflenwi sgiliau ledled Cymru. Mae’r gronfa wedi cefnogi prosiect Sgiliau Creadigol a Diwylliannol sydd wedi cyflwyno prentisiaethau i sector lle mae darparwyr yng Nghymru, yn draddodiadol, wedi cael trafferth ennyn diddordeb, fel ei bod yn anodd iddynt ddatblygu trefniadau cyflenwi priodol o dan ddarpariaeth brif ffrwd.

 

25.Rydym hefyd yn cydweithio â’r Sector Cyhoeddus yng Nghymru i ysgogi mwy o ymwneud â phrentisiaethau. Trwy drafodaethau diweddar â swyddogion Llywodraeth Cymru o wahanol adrannau, mae uwch gynrychiolwyr o bob rhan o’r sector cyhoeddus, gan gynnwys Awdurdodau Lleol, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân a’r Gwasanaeth Iechyd, yn cael eu hannog i ystyried y ffordd orau o ddatblygu cyfleoedd am brentisiaethau yn eu meysydd. Mae’r sefyllfa o ran recriwtio prentisiaid gan awdurdodau lleol a’r sector cyhoeddus yn newid yn barhaus, ond tra bod rhai yn dweud bod nifer y lleoedd yn prinhau, mae eraill yn bwriadu eu cynyddu. Mae awdurdodau lleol Caerffili a Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, yn rhedeg mentrau penodol ar hyn o bryd i gynyddu nifer y prentisiaid.


Effaith Economaidd ac Ymatebolrwydd Prentisiaethau

26.Er bod ein harlwy brentisiaethau yng Nghymru ar gael o hyd ar draws yr holl sectorau lle mae galw, rydym wedi penderfynu canolbwyntio o’r newydd ar sectorau â blaenoriaeth economaidd, gan adeiladu ar yr wybodaeth ddiweddaraf o Baneli Sector ac o drafodaethau â fforymau cyflogwyr eraill. Rydym hefyd wedi ymrwymo i annog buddsoddi ehangach mewn sgiliau er mwyn ysgogi cynhyrchiant a thwf, gan ddefnyddio offerynnau fel y rhaglen Sgiliau Twf Cymru i gydweithio â chwmnïau â chynlluniau twf credadwy, a chan fabwysiadu dull targededig o helpu Cwmnïau Angori a Chwmnïau o Bwys Rhanbarthol i gynhyrchu twf economaidd drwy fuddsoddiadau sgiliau. Mae ein rhaglenni prentisiaethau yn elfen graidd o’r buddsoddiadau sgiliau hyn ac maent wedi bod yn ffordd gynyddol hyblyg ac ymatebol o ddiwallu anghenion cyflogwyr yn y blynyddoedd diwethaf.

 

27.Mae’r dirwasgiad, yn benodol, wedi galluogi Llywodraeth Cymru i amlygu ymatebolrwydd a hyblygrwydd ein rhaglenni prentisiaethau drwy gyflwyno nifer o fesurau cadarnhaol i leihau effaith twf economaidd isel a sicrhau cyflenwad cyson o leoedd prentisiaeth a chyfleoedd datblygu. Dau o’r mesurau hynny oedd y rhaglen Llwybrau at Brentisiaethau a’r rhaglen Recriwtiaid Newydd, a oedd yn galluogi ac yn annog mwy o bobl ifanc a chyflogwyr i weld bod prentisiaethau yn llwybr credadwy, integredig at gyflogaeth a sgiliau. Un o fanteision ychwanegol cyflwyno’r rhaglenni hyn yw ehangu’r sylfaen o gyflogwyr a chyflogeion ar gyfer prentisiaethau, a bwriedir mynd ati hefyd i wella ymhellach y cyfraddau cwblhau prentisiaethau.

 

28.Mae rhaglen y Gronfa Blaenoriaethau Sector wedi treialu fframweithiau prentisiaethau a dulliau cyflenwi newydd fel ymateb uniongyrchol i alw gan  sectorau ac, yn sgil ei hestyn yn ddiweddar, bydd yn ehangu ei chwmpas i wahodd syniadau am brosiectau gan fwy o gyflogwyr. Yn yr un modd â’r opsiynau Darpariaeth Hyblyg a Rhannu Prentisiaeth, mae’r rhaglen hon yn galluogi ymagwedd sy’n datblygu’n barhaus at sicrhau bod rhaglenni prentisiaethau yn bodloni anghenion a gofynion economaidd.

 

29.    Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i brif ffrydio’r defnydd o gymalau Manteision Cymunedol. Mae polisi Manteision Cymunedol Llywodraeth Cymru yn hybu cynnwys cymalau cymdeithasol mewn contractau sector cyhoeddus, ac mae wedi llwyddo i sicrhau cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth, megis prentisiaethau, trwy gontractau sector cyhoeddus. Mae’r dull hwn wedi’i groesawu gan awdurdodau caffael a chyflenwyr fel ei gilydd, ac mae ystod o gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth wedi’u darparu. Amcangyfrifir bod 54 o brosiectau hyd yma wedi cymhwyso’r dull Manteision Cymunedol i gontractau gwerth £3.4 biliwn. Mae fy swyddogion yn cydweithio â Gwerth Cymru i helpu i sicrhau galw cytbwys am brentisiaethau a blaenoriaethau sgiliau a chyflogaeth eraill drwy’r llwybr hwn, ac i oresgyn y rhwystrau a godir gan natur fyrdymor rhai contractau drwy ddefnydd creadigol o fodelau rhannu prentisiaeth.

 

Paru’r Cyflenwad o Brentisiaethau â’r Galw

30.Credwn fod llwyddiant prentisiaethau yng Nghymru yn dibynnu ar sicrhau’r paru gorau posibl rhwng y cyflenwad a’r galw, ac felly rydym wedi datblygu cyfres o raglenni prentisiaethau arloesol ac ymatebol (fel yr amlinellwyd uchod) mewn ymateb i adborth uniongyrchol gan gyflogwyr, darparwyr ac unigolion, a gellir eu haddasu i ddiwallu ystod o anghenion.

 

31.Mae datblygu a gweithredu’r rhaglenni hyn yn seiliedig ar wybodaeth gadarnam y farchnad lafur (LMI), sydd hefyd yn sylfaen i gysylltu cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd ag anghenion amlwg cyflogwyr. Mae prosiect LMI Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r wybodaeth ansawdd uchel sydd ar gael am anghenion cyflogwyr, ac rydym yn ymwneud yn llawn ar lefel y DU ag arolygon o’r sgiliau sydd ar gael ac sydd eu hangen, a gwaith i ddadansoddi tueddiadau cyflogaeth y dyfodol fesul sector allweddol drwy UKCES. Yn yr un modd, mae Cynghorau Sgiliau Sector yn flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu LMI fesul sector a nodi gofynion y dyfodol. Rydym hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau o’r enw ‘Y Sgwrs Go Iawn’ i gael adborth uniongyrchol gan bobl ifanc i’n helpu i ddatblygu ein rhaglen ac i wella perthnasedd a chwmpas ein dull cyfathrebu a marchnata.

 

32.Mae prentisiaethau yn gyfle i bobl ifanc ‘ennill wrth ddysgu’ wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau. Ymddengys ei bod yn anos i rai sectorau nag eraill ddenu pobl ifanc o’r radd briodol. Fodd bynnag, wrth i brentisiaethau ennill mwy o barch cydradd â llwybrau academaidd, mae’n debygol y bydd mwy o bobl ifanc yn y dyfodol yn ystyried prentisiaeth yn lle mynd i brifysgol neu goleg, fel bod cronfa ehangach o bobl ifanc talentog ar gael i gyflogwyr.

 

33.Mae gan ysgolion, colegau addysg bellach a darparwyr dysgu eraill ddyletswydd o dan y fframwaith Gyrfaoedd a Byd Gwaith i ddarparu rhaglen ar gyfer pob dysgwr 11-19 oed i helpu i’w paratoi ar gyfer yr ystod o ddewisiadau gyrfaol sydd ar gael. O fewn y rhaglen hon, dylid sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael o dan y rhaglen brentisiaethau. Bydd dysgwyr ifanc hefyd yn cael cyfle i adolygu eu dewisiadau dysgu a gyrfaol gyda chynghorydd gyrfaoedd cymwysedig. 

 

34.Un ffactor allweddol a fydd yn pennu llwyddiant ein rhaglenni prentisiaethau yw’r gallu i gyflenwi’r bobl gywir â’r sgiliau cywir ar yr adeg gywir. Gyda hynny mewn golwg, rydym wedi cyflwyno’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau yng Nghymru, sef gwefan ryngweithiol a gynhelir gan Yrfa Cymru, sy’n paru unigolion â phrentisiaethau gwag a hysbysebir gan gyflogwyr. Mae’r Gwasanaeth yn darparu mynediad uniongyrchol at brentisiaethau gwag ‘byw’ gyda chyflogwyr, ac mae dros 800 o gyfleoedd wedi’u hysbysebu ers ei lansio yng Ngorffennaf 2011.

 

35.O ganlyniad i sefydlu’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau, a’r defnydd cynyddol ohono, gall Gyrfa Cymru a’r Ganolfan Byd Gwaith gael gwybodaeth ychwanegol i hyrwyddo cwmpas a gwerth prentisiaethau i unigolion yng Nghymru. Ynghyd â mecanweithiau eraill sy’n effeithio ar brentisiaethau ac yn eu hyrwyddo drwy ymgyrchoedd fel ‘Wythnos Prentisiaethau’,mae’r gwasanaeth hwn yn hanfodol i gynyddu’r gronfa o brentisiaid posibl yng Nghymru i alluogi cyflogwyr i ddod o hyd i unigolion o’r radd flaenaf, gan godi gwerth a phroffil prentisiaethau ac ennill parch cydradd â llwybrau academaidd mwy traddodiadol. Mae cynyddu’r cyfraddau cwblhau a gwella ansawdd o fewn y rhwydwaith darparwyr dysgu seiliedig ar waith hefyd wedi bod yn hanfodol i wneud prentisiaethau yn opsiwn mwy deniadol i unigolion a chyflogwyr, fel y mae hyrwyddo llwybr datblygu cydlynol at gyflogaeth barhaus drwy gyfres Llywodraeth Cymru o raglenni cyflogadwyedd a sgiliau.

 

36.Ar lefel ehangach polisi, rhagwelwn mai effaith cychwyn y darpariaethau prentisiaethau yn Neddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 fydd gosod prentisiaethau ar sylfaen gymdeithasol a chyfreithiol gadarnach, gan arwain at fwy o gydnabyddiaeth o werth prentisiaethau ymhlith cyflogwyr a’r gymdeithas yn gyffredinol. Fy nod yw cyrraedd pwynt lle y bydd cyflawni Tystysgrif Prentisiaeth yn cael ei gydnabod a’i ystyried yn werthfawr gan bawb, ac yn cael ei ystyried yn gadarnhad o sgiliau, proffesiynoldeb ac uchelgais ein gwlad o fewn yr economi fyd-eang.